Added song lyrics

This commit is contained in:
2020-04-27 22:32:46 +02:00
parent c73197a966
commit 63357018c8
5 changed files with 152 additions and 0 deletions

24
Geiriau/CwmRhondda.txt Normal file
View File

@@ -0,0 +1,24 @@
Dyma'r geiriau yn Gymraeg:
Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthrych teilwng o fy mryd;
Er o'r braidd 'rwy'n Ei adnabod
Ef uwchlaw gwrthrychau'r byd:
Henffych fore! Henffych fore!
Caf ei weled fel y mae.
Caf ei weled fel y mae.
Rhosyn Saron yw Ei enw,
Gwyn a gwridog, hardd Ei bryd!
Ar ddeng mil y mae'n rhagori
O wrthddrychau penna'r byd ;
Ffrind pechadur! Ffrind pechadur!
Dyma'r llywydd ar y môr.
Dyma'r llywydd ar y môr.
Beth sydd imi mwy a wnelwyf
Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio 'r wyf nad yw eu cwmni
I'w gymharu a'm Iesu Mawr.
O, am aros! O, am aros!
Yn Ei gariad ddyddiau f'oes.
Yn Ei gariad ddyddiau f'oes.

26
Geiriau/DacwrNghariad.txt Normal file
View File

@@ -0,0 +1,26 @@
Dacw 'nghariad i lawr yn y berllan,
Tw rym di ro rym di radl didl dal
O na bawn i yno fy hunan,
Tw rym di ro rym di radl didl dal
Dacw'r tŷ, a dacw'r 'sgubor;
Dacw ddrws y beudy'n agor.
Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal,
Tw rym di ro rym di radl didl dal.
Dacwr dderwen wych ganghennog,
Tw rym di ro rym di radl didl dal
Golwg arni sydd dra serchog.
Tw rym di ro rym di radl didl dal
Mi arhosaf yn ei chysgod
Nes daw 'nghariad i 'ngyfarfod.
Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal,
Tw rym di ro rym di radl didl dal.
Dacw'r delyn, dacw'r tannau;
Tw rym di ro rym di radl didl dal
Beth wyf gwell, heb neb i'w chwarae?
Tw rym di ro rym di radl didl dal
Dacw'r feinwen hoenus fanwl;
Beth wyf well heb gael ei meddwl?
Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal,
Tw rym di ro rym di radl didl dal

25
Geiriau/Erwan.txt Normal file
View File

@@ -0,0 +1,25 @@
Erwan ble rwyti
wedi croesi'r afon
yn nhafarn tir na n-Og
rwyt yn yfed nawr
Erwan, Kenavo,
hen ffrind o Lydaw
Yng ngwlad y llwybrau tywyll
'sdim golau'r wawr
Rwyti wedi croesi'r dwr
i wlad y dall a'r byddar,
gyrru lawr y lôn
lle fuest ti o'r blaen
yn barod wedi'r hunllef
i fynd i'r Fest noz olaf
fydd dim dawnsio mwy na yfed
gyda ffrindiau wrth y tân
Erwan Kenavo.
Mae'r Ffrancwyr wedi methu.
Ddim golau'r gwir i'nhw, dim iechyd mad.
Rwyti'n chwerthin am eu pennau
dros wyneb pren y byrddau
cawn gwrdd tu hwnt i'r bedd
mewn breuddwydion

51
Geiriau/HelarDryw.txt Normal file
View File

@@ -0,0 +1,51 @@
Ble rwyt ti'n mynd? meddai Rhisiart wrth Robin,
Ble rwyt ti'n mynd? meddai Dibyn wrth Dobyn,
Ble rwyt ti'n mynd? meddai John,
Ble rwyt ti'n mynd? meddai'r Nefar Biond
Mynd tua'r coed, meddai Rhisiart wrth Robin,
Mynd tua'r coed, meddai Dibyn wrth Dobyn,
Mynd tua'r coed, meddai John,
Mynd tua'r coed, meddai'r Nefar Biond
Be wnei di no? meddai Rhisiart wrth Robin,
Be wnei di no? meddai Dibyn wrth Dobyn,
Be wnei di no? meddai John,
Be wnei di no? meddai'r Nefar Biond
Hela'r dryw bach, meddai Rhisiart wrth Robin,
Hela'r dryw bach, meddai Dibyn wrth Dobyn,
Hela'r dryw bach, meddai John,
Hela'r dryw bach, meddai'r Nefar Biond
Be wnei di no? meddai Rhisiart wrth Robin,
Be wnei di no? meddai Dibyn wrth Dobyn,
Be wnei di no? meddai John,
Be wnei di no? meddai'r Nefar Biond
Lladd y dryw bach, meddai Rhisiart wrth Robin,
Lladd y dryw bach, meddai Dibyn wrth Dobyn,
Lladd y dryw bach, meddai John,
Lladd y dryw bach, meddai'r Nefar Biond
A'i hebrwng e gartref, meddai Rhisiart wrth Robin,
A'i hebrwng e gartref, meddai Dibyn wrth Dobyn,
A'i hebrwng e gartref, meddai John,
A'i hebrwng e gartref, meddai'r Nefar Biond
Ceffyl a chert, meddai Rhisiart wrth Robin,
Ceffyl a chert, meddai Dibyn wrth Dobyn,
Ceffyl a chert, meddai John,
Ceffyl a chert, meddai'r Nefar Biond
Beth am ei fwyta? meddai Rhisiart wrth Robin,
Beth am ei fwyta? meddai Dibyn wrth Dobyn,
Beth am ei fwyta? meddai John,
Beth am ei fwyta? meddai'r Nefar Biond
Cyllell a fforc, meddai Rhisiart wrth Robin,
Cyllell a fforc, meddai Dibyn wrth Dobyn,
Cyllell a fforc, meddai John,
Cyllell a fforc, meddai'r Nefar Biond

26
Geiriau/Myfanwy.txt Normal file
View File

@@ -0,0 +1,26 @@
Paham mae dicter, O Myfanwy,
Yn llenwi'th lygaid duon di?
A'th ruddiau tirion, O Myfanwy,
Heb wrido wrth fy ngweled i?
Pa le mae'r wên oedd ar dy wefus
Fu'n cynnau 'nghariad ffyddlon ffôl?
Pa le mae sain dy eiriau melys,
Fu'n denu'n nghalon ar dy ôl?
Pa beth a wneuthum, O Myfanwy
I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd?
Ai chwarae oeddit, O Myfanwy
 thanau euraidd serch dy fardd?
Wyt eiddo im drwy gywir amod
Ai gormod cadw'th air i mi?
Ni cheisiaf fyth mo'th law, Myfanwy,
Heb gael dy galon gyda hi.
Myfanwy boed yr holl o'th fywyd
Dan heulwen ddisglair canol dydd.
A boed i rosyn gwridog iechyd
I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd.
Anghofia'r oll o'th addewidion
A wnest i rywun, 'ngeneth ddel,
A dyro'th law, Myfanwy dirion
I ddim ond dweud y gair "Ffarwél".