From 63357018c8df9616f7daf952a07f4d3e0dc0cb38 Mon Sep 17 00:00:00 2001 From: Jali Date: Mon, 27 Apr 2020 22:32:46 +0200 Subject: [PATCH] Added song lyrics --- Geiriau/CwmRhondda.txt | 24 ++++++++++++++++++ Geiriau/DacwrNghariad.txt | 26 ++++++++++++++++++++ Geiriau/Erwan.txt | 25 +++++++++++++++++++ Geiriau/HelarDryw.txt | 51 +++++++++++++++++++++++++++++++++++++++ Geiriau/Myfanwy.txt | 26 ++++++++++++++++++++ 5 files changed, 152 insertions(+) create mode 100644 Geiriau/CwmRhondda.txt create mode 100644 Geiriau/DacwrNghariad.txt create mode 100644 Geiriau/Erwan.txt create mode 100644 Geiriau/HelarDryw.txt create mode 100644 Geiriau/Myfanwy.txt diff --git a/Geiriau/CwmRhondda.txt b/Geiriau/CwmRhondda.txt new file mode 100644 index 0000000..75044b3 --- /dev/null +++ b/Geiriau/CwmRhondda.txt @@ -0,0 +1,24 @@ +Dyma'r geiriau yn Gymraeg: +Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd +Wrthrych teilwng o fy mryd; +Er o'r braidd 'rwy'n Ei adnabod +Ef uwchlaw gwrthrychau'r byd: +Henffych fore! Henffych fore! +Caf ei weled fel y mae. +Caf ei weled fel y mae. + +Rhosyn Saron yw Ei enw, +Gwyn a gwridog, hardd Ei bryd! +Ar ddeng mil y mae'n rhagori +O wrthddrychau penna'r byd ; +Ffrind pechadur! Ffrind pechadur! +Dyma'r llywydd ar y môr. +Dyma'r llywydd ar y môr. + +Beth sydd imi mwy a wnelwyf +Ag eilunod gwael y llawr? +Tystio 'r wyf nad yw eu cwmni +I'w gymharu a'm Iesu Mawr. +O, am aros! O, am aros! +Yn Ei gariad ddyddiau f'oes. +Yn Ei gariad ddyddiau f'oes. diff --git a/Geiriau/DacwrNghariad.txt b/Geiriau/DacwrNghariad.txt new file mode 100644 index 0000000..1e7c4f7 --- /dev/null +++ b/Geiriau/DacwrNghariad.txt @@ -0,0 +1,26 @@ +Dacw 'nghariad i lawr yn y berllan, +Tw rym di ro rym di radl didl dal +O na bawn i yno fy hunan, +Tw rym di ro rym di radl didl dal +Dacw'r tŷ, a dacw'r 'sgubor; +Dacw ddrws y beudy'n agor. +Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal, +Tw rym di ro rym di radl didl dal. + +Dacw’r dderwen wych ganghennog, +Tw rym di ro rym di radl didl dal +Golwg arni sydd dra serchog. +Tw rym di ro rym di radl didl dal +Mi arhosaf yn ei chysgod +Nes daw 'nghariad i 'ngyfarfod. +Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal, +Tw rym di ro rym di radl didl dal. + +Dacw'r delyn, dacw'r tannau; +Tw rym di ro rym di radl didl dal +Beth wyf gwell, heb neb i'w chwarae? +Tw rym di ro rym di radl didl dal +Dacw'r feinwen hoenus fanwl; +Beth wyf well heb gael ei meddwl? +Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal, +Tw rym di ro rym di radl didl dal diff --git a/Geiriau/Erwan.txt b/Geiriau/Erwan.txt new file mode 100644 index 0000000..1df3a05 --- /dev/null +++ b/Geiriau/Erwan.txt @@ -0,0 +1,25 @@ +Erwan ble rwyti +wedi croesi'r afon +yn nhafarn tir na n-Og +rwyt yn yfed nawr +Erwan, Kenavo, +hen ffrind o Lydaw +Yng ngwlad y llwybrau tywyll +'sdim golau'r wawr + +Rwyti wedi croesi'r dwr +i wlad y dall a'r byddar, +gyrru lawr y lôn +lle fuest ti o'r blaen +yn barod wedi'r hunllef +i fynd i'r Fest noz olaf +fydd dim dawnsio mwy na yfed +gyda ffrindiau wrth y tân + +Erwan Kenavo. +Mae'r Ffrancwyr wedi methu. +Ddim golau'r gwir i'nhw, dim iechyd mad. +Rwyti'n chwerthin am eu pennau +dros wyneb pren y byrddau +cawn gwrdd tu hwnt i'r bedd +mewn breuddwydion diff --git a/Geiriau/HelarDryw.txt b/Geiriau/HelarDryw.txt new file mode 100644 index 0000000..ca5a5a5 --- /dev/null +++ b/Geiriau/HelarDryw.txt @@ -0,0 +1,51 @@ +Ble rwyt ti'n mynd? meddai Rhisiart wrth Robin, +Ble rwyt ti'n mynd? meddai Dibyn wrth Dobyn, +Ble rwyt ti'n mynd? meddai John, +Ble rwyt ti'n mynd? meddai'r Nefar Biond + + +Mynd tua'r coed, meddai Rhisiart wrth Robin, +Mynd tua'r coed, meddai Dibyn wrth Dobyn, +Mynd tua'r coed, meddai John, +Mynd tua'r coed, meddai'r Nefar Biond + + +Be wnei di no? meddai Rhisiart wrth Robin, +Be wnei di no? meddai Dibyn wrth Dobyn, +Be wnei di no? meddai John, +Be wnei di no? meddai'r Nefar Biond + +Hela'r dryw bach, meddai Rhisiart wrth Robin, +Hela'r dryw bach, meddai Dibyn wrth Dobyn, +Hela'r dryw bach, meddai John, +Hela'r dryw bach, meddai'r Nefar Biond + +Be wnei di no? meddai Rhisiart wrth Robin, +Be wnei di no? meddai Dibyn wrth Dobyn, +Be wnei di no? meddai John, +Be wnei di no? meddai'r Nefar Biond + +Lladd y dryw bach, meddai Rhisiart wrth Robin, +Lladd y dryw bach, meddai Dibyn wrth Dobyn, +Lladd y dryw bach, meddai John, +Lladd y dryw bach, meddai'r Nefar Biond + +A'i hebrwng e gartref, meddai Rhisiart wrth Robin, +A'i hebrwng e gartref, meddai Dibyn wrth Dobyn, +A'i hebrwng e gartref, meddai John, +A'i hebrwng e gartref, meddai'r Nefar Biond + +Ceffyl a chert, meddai Rhisiart wrth Robin, +Ceffyl a chert, meddai Dibyn wrth Dobyn, +Ceffyl a chert, meddai John, +Ceffyl a chert, meddai'r Nefar Biond + +Beth am ei fwyta? meddai Rhisiart wrth Robin, +Beth am ei fwyta? meddai Dibyn wrth Dobyn, +Beth am ei fwyta? meddai John, +Beth am ei fwyta? meddai'r Nefar Biond + +Cyllell a fforc, meddai Rhisiart wrth Robin, +Cyllell a fforc, meddai Dibyn wrth Dobyn, +Cyllell a fforc, meddai John, +Cyllell a fforc, meddai'r Nefar Biond diff --git a/Geiriau/Myfanwy.txt b/Geiriau/Myfanwy.txt new file mode 100644 index 0000000..004ea0c --- /dev/null +++ b/Geiriau/Myfanwy.txt @@ -0,0 +1,26 @@ +Paham mae dicter, O Myfanwy, +Yn llenwi'th lygaid duon di? +A'th ruddiau tirion, O Myfanwy, +Heb wrido wrth fy ngweled i? +Pa le mae'r wên oedd ar dy wefus +Fu'n cynnau 'nghariad ffyddlon ffôl? +Pa le mae sain dy eiriau melys, +Fu'n denu'n nghalon ar dy ôl? + +Pa beth a wneuthum, O Myfanwy +I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd? +Ai chwarae oeddit, O Myfanwy +Â thanau euraidd serch dy fardd? +Wyt eiddo im drwy gywir amod +Ai gormod cadw'th air i mi? +Ni cheisiaf fyth mo'th law, Myfanwy, +Heb gael dy galon gyda hi. + +Myfanwy boed yr holl o'th fywyd +Dan heulwen ddisglair canol dydd. +A boed i rosyn gwridog iechyd +I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd. +Anghofia'r oll o'th addewidion +A wnest i rywun, 'ngeneth ddel, +A dyro'th law, Myfanwy dirion +I ddim ond dweud y gair "Ffarwél".