Files
Cymraeg/Geiriau/Erwan.txt
2020-04-27 22:32:46 +02:00

26 lines
542 B
Plaintext

Erwan ble rwyti
wedi croesi'r afon
yn nhafarn tir na n-Og
rwyt yn yfed nawr
Erwan, Kenavo,
hen ffrind o Lydaw
Yng ngwlad y llwybrau tywyll
'sdim golau'r wawr
Rwyti wedi croesi'r dwr
i wlad y dall a'r byddar,
gyrru lawr y lôn
lle fuest ti o'r blaen
yn barod wedi'r hunllef
i fynd i'r Fest noz olaf
fydd dim dawnsio mwy na yfed
gyda ffrindiau wrth y tân
Erwan Kenavo.
Mae'r Ffrancwyr wedi methu.
Ddim golau'r gwir i'nhw, dim iechyd mad.
Rwyti'n chwerthin am eu pennau
dros wyneb pren y byrddau
cawn gwrdd tu hwnt i'r bedd
mewn breuddwydion