Dyma'r geiriau yn Gymraeg: Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd Wrthrych teilwng o fy mryd; Er o'r braidd 'rwy'n Ei adnabod Ef uwchlaw gwrthrychau'r byd: Henffych fore! Henffych fore! Caf ei weled fel y mae. Caf ei weled fel y mae. Rhosyn Saron yw Ei enw, Gwyn a gwridog, hardd Ei bryd! Ar ddeng mil y mae'n rhagori O wrthddrychau penna'r byd ; Ffrind pechadur! Ffrind pechadur! Dyma'r llywydd ar y môr. Dyma'r llywydd ar y môr. Beth sydd imi mwy a wnelwyf Ag eilunod gwael y llawr? Tystio 'r wyf nad yw eu cwmni I'w gymharu a'm Iesu Mawr. O, am aros! O, am aros! Yn Ei gariad ddyddiau f'oes. Yn Ei gariad ddyddiau f'oes.